#

Gweithredoedd addoli crefyddol mewn ysgolion
Y Pwyllgor Deisebau | 27 Mehefin 2017
 Petitions Committee | 27 June 2017
 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-765

Teitl y ddeiseb: Cadw canllawiau presennol ar gyfer gwasanaethau crefyddol

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i gadw gwasanaethau crefyddol yn ysgolion gwladol Cymru fel rhai 'optio allan' ac ''o natur Gristnogol fras yn gyfan gwbl neu'n bennaf'', gan ystyried ffyrdd o sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i bobl sydd o grefydd wahanol a'r rhai sydd heb grefydd o gwbl.

1.       Y sefyllfa gyfreithiol

Cafodd y ddyletswydd statudol i ysgolion gael gweithredoedd dyddiol o addoli ar y cyd yng Nghymru (a Lloegr a Gogledd Iwerddon) ei chyflwyno yn Neddf Addysg 1944. Yn dilyn hynny, roedd Deddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998 yn nodi y bydd pob disgybl sy'n mynychu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn cymryd rhan mewn gweithred o addoli ar y cyd ar bob diwrnod ysgol.  Mae'n cynnwys eithriad y gall rhieni dynnu eu plant o weithredoedd o'r fath.  Mae'r Ddeddf yn nodi y bydd y rhan fwyaf o'r addoli ar y cyd o natur Gristnogol fras yn gyfan gwbl neu'n bennaf.

Mae gan ysgolion yr hawl i 'benderfyniad' - sef, cael eu rhyddhau o'r gofynion i weithredoedd addoli fod o natur Gristnogol fras yn gyfan gwbl neu'n bennaf, pe bai cyfansoddiad yr ysgol yn gofyn am hyn.  Nid oes gan ysgolion sydd â chymeriad crefyddol yr hawl i benderfyniad.

Mae darpariaethau Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn caniatáu i ddisgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol, ysgolion gwirfoddol, ysgolion sefydledig ac ysgolion arbennig sefydledig yr hawl i dynnu eu hunain yn ôl o addoli ar y cyd

Yn ei hymateb i'r Pwyllgor, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn nodi'r sefyllfa gyfreithiol bresennol a'i barn y dylai addoli ar y cyd fod yn sensitif i amrywiaeth o gredoau ac achosion lle nad oes credoau a ddelir gan y disgyblion yn yr ysgol.  

Er bod darpariaethau tebyg yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, nid yw Deddf Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986 yn nodi bod yn rhaid i addoliad fod yn Gristnogol.

Yn yr Alban, nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i ysgolion gynnal gweithredoedd o addoli ar y cyd; yn lle hynny, defnyddir y termau 'defodau crefyddol' neu 'amser i feddwl'.  Mae Deddf Addysg (yr Alban) 1980, yn nodi ym mhob ysgol a ariennir gan y wladwriaeth, y dylai defodau crefyddol fod ar gael, oni bai bod penderfyniad i derfynu hyn wedi cael ei basio gan yr awdurdod addysg lleol a'i gymeradwyo gan yr etholwyr yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw. Mae Curriculum for Excellence: Provision of Religious Observance in Schools (Mawrth 2017) Llywodraeth yr Alban yn nodi y gall ysgolion deimlo y bydd enw gwahanol ar gyfer y digwyddiadau sy'n bodloni eu gofynion defodau crefyddol yn fwy priodol i'w cyd-destun a'u diwylliant unigol. Er enghraifft, mewn ysgol anenwadol, efallai yr ystyrir y defnydd o'r term 'amser i feddwl' yn fwy priodol gan gymuned yr ysgol.  Mae hefyd yn nodi y dylai pob ysgol ddarparu cyfleoedd ar gyfer defodau crefyddol sawl gwaith mewn blwyddyn ysgol.

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd y Swyddfa Gymreig gynt ganllawiau anstatudol, Addysg Grefyddol a Chydaddoli  ym mis Medi 1994.  Cyhoeddodd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Cymru (WASACRE) Ganllawiau ar Addoli ar y Cyd ym mis Mehefin 2012.  Y nod oedd cryfhau ac egluro'r disgwyliadau a nodir yng Nghylchlythyr y Swyddfa Gymreig ym 1994.  Mae canllawiau WASACRE yn nodi'r manteision o addoli ar y cyd fel a ganlyn:

§    Hybu datblygiad ysbrydol;

§    Cyfrannu at ddatblygiad personol;

§    Yn fuddiol i gymuned yr ysgol gyfan;

§    Cysylltu cymuned yr ysgol â'r gymuned ehangach;

§    Gwella ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth fyd-eang.

Er na chaiff y term 'addoli' ei ddiffinio mewn deddfwriaeth, mae canllawiau 1994 y Swyddfa Gymreig yn cynnwys y diffiniad a ganlyn:

“Rhaid iddo mewn rhyw ffordd adlewyrchu rhywbeth sy’n arbennig neu’n wahanol i weithgareddau arferol yr ysgol a dylai ymwneud â’r parch neu’r addoliad a gynigir i fod neu bŵer duwiol.”

Mae addoli mewn ysgolion yn wahanol i addoli ymysg grŵp o bobl sydd â chredoau cyffredin. Caiff hyn ei gydnabod mewn deddfwriaeth drwy'r cyfeiriad at addoli 'ar y cyd' yn hytrach nag addoli 'corfforaethol'.

Mae Estyn yn arolygu gweithredoedd addoli ar y cyd ym mhob ysgol nad ydynt yn darparu addysg enwadol. Ym mhob ysgol arall, caiff gweithredoedd o addoli ar y cyd eu harchwilio gan arolygwyr a benodir gan gorff llywodraethu'r ysgol.

2.       Senedd y DU

Mewn ateb i Gwestiwn Ysgrifenedig Tŷ'r Arglwyddi ar 26 Ionawr 2016, dywedodd yr Arglwydd Nash, yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Ysgolion:

“The Government does not plan to change the requirements for a daily act of collective worship. It is for schools to tailor their provision to suit the needs of their pupils, and parents can choose to withdraw their children from all or any part of collective worship.”

Wrth ystyried Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (yng nghyfnod y Bil), nododd Cyd-bwyllgor Senedd y DU ar Hawliau Dynol fod Adroddiad Rhif 28 (Hydref 2006) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi fel a ganlyn:

“Children enjoy the right to freedom of thought, conscience and religion under both Article 9 of the European Convention on Human Rights and Article 14(1) of the UN Convention on the Rights of the Child. The UK is also under an obligation to assure to the child who is capable of forming his or her own views the right to express those views freely in all matters affecting the child, and to give those views due weight in accordance with the age and maturity of the child.”  

Roedd y Pwyllgor yn argymell y canlynol: 

“In our view the current legal framework is incompatible with these obligations in so far as it fails to guarantee a child of sufficient maturity, intelligence and understanding the right to withdraw from both compulsory religious education and collective worship. An amendment to the Bill which gave pupils over the age of 16 the right to withdraw from collective worship would therefore reduce the extent of the incompatibility of the present law with the UK’s human rights obligations, but it would not remove that incompatibility altogether.  

To remove the incompatibility, in our view, it would be necessary to go further in two respects: first, by granting a right to withdraw from religious education as well as collective worship; and, second, by affording the right to withdraw from both religious education and collective worship to any pupil of sufficient maturity, understanding and intelligence to make an informed decision about whether or not to withdraw.”

3.       Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn cynnwys ystyriaeth o'r Confensiwn a'r Protocolau Dewisol yng nghyfraith Cymru.  Mae'r Mesur yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi 'sylw dyledus' i'r canlynol:  

§    Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn;  

§    Y Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar gynnwys plant mewn gwrthdrawiadau arfog;  

§    Y Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant.  

Ym mis Mehefin 2016, cyhoeddodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ei Sylwadau Clo ar ba gynnydd sydd wedi'i wneud i gyflawni ar hawliau plant. Yn dilyn adolygiad ledled y DU, gwnaeth dros 150 o argymhellion. Mynegodd Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig bryder ynghylch addoli ar y cyd ar gyfer disgyblion yng Nghymru a Lloegr. Mae'n argymell fel a ganlyn:

“The State party repeal legal provisions for compulsory attendance at collective worship in publicly funded schools and ensure that children can independently exercise the right to withdraw from religious worship at school.”

4.       Gwaith ymchwil ar addoli ar y cyd

Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau adroddiad, Collective Worship and Religious Observance in Schools:  An Evaluation of Law and Policy in the UK.  Roedd yn nodi:

“The statutory duty to provide an act of collective worship/religious observance in schools has been controversial for decades. Issues include: disagreement about the appropriateness of such acts in an increasingly pluralistic, multicultural UK; the degree to which the current system properly affords respect for the rights of individuals and minority groups, including those with no religious faith; and concerns that the present arrangements do not adequately develop the spiritual/moral education of pupils, or promote a community spirit and shared values in schools.”

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at rai pryderon cyffredin ynghylch addoli ar y cyd.  Mae'r rhain yn cynnwys:

§    Diffyg rhesymeg gydlynol ar gyfer yr ysgol

§    Methiant i ddiogelu safonau Hawliau Dynol; a

§    Diffyg eglurder ac amwysedd sy'n golygu y gall penaethiaid arfer dylanwad gormodol neu amhriodol dros gynnwys yr addoliad neu fod yn anfodlon neu'n amharod i wneud penderfyniadau ynghylch cynnwys addoli ar y cyd. 

Mae'r adroddiad yn awgrymu, pe bai'r ddyletswydd yn cael ei diddymu, efallai y bydd ysgolion am barhau i gwrdd.  Byddai angen cael mecanwaith i sicrhau bod cyfarfodydd o'r fath yn gynhwysol ac yn parchu uniondeb disgyblion, rhieni ac athrawon.  Mae hefyd yn awgrymu y gallai dileu'r ddyletswydd fod yn gyfle a gollir i ddatblygu disgyblion a chydlyniad cymdeithasol.

Roedd yr adroddiad yn nodi dulliau posibl ar gyfer diwygio:

§    Dileu'r gofyniad bod yn rhaid i weithredoedd addoli ar y cyd fod o natur Gristnogol fras;

§    Disodli'r ddyletswydd gyda dyletswydd ar gyfer 'amser i feddwl'.

Roedd yn cynnwys argymhellion penodol ar gyfer Cymru:

§    Dylai Cylchlythyr 10/94, Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd gael ei ddiwygio ar frys er mwyn adlewyrchu anghenion cyfoes y system addysg yng Nghymru, yn enwedig yn sgil argymhellion Donaldson;

§    Dylai statws anstatudol y cylchlythyr fod yn hysbys yn eang i ysgolion, Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol ac Estyn;

§    Dylai Estyn adolygu ei ganllawiau arolygu a rhoi mwy o bwyslais ar agwedd gyfunol y gweithgarwch;

§    Wrth adolygu a gwneud penderfyniadau yn y maes hwn, dylai Gweinidogion Cymru roi sylw dyledus i hawliau plant a phobl ifanc fel sy'n ofynnol yn sgil y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru).

Adolygiad o'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru

Roedd adolygiad yr Athro Graham Donaldson o'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, Dyfodol Llwyddiannus (Chwefror 2015) yn cyfeirio at addysg grefyddol, yn hytrach nag addoli ar y cyd.  Roedd yn argymell y dylai addysg grefyddol fod yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau, a dylai barhau i fod yn ofyniad cwricwlwm statudol o'r dosbarth derbyn.  Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o argymhellion yr Athro Donaldson yn llawn.  Ar 15 Gorffennaf 2015, wrth ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, mewn perthynas ag addysg grefyddol:

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i gyhoeddi y prynhawn yma fy mod yn credu ein bod angen trawsnewid ein cwricwlwm addysg grefyddol ar hyn o bryd. Byddwn yn haeru y dylem ail-enwi’r cwricwlwm Addysg Grefyddol a’i newid yn elfen crefydd, athroniaeth a moeseg y cwricwlwm, lle ceir ymrwymiad pendant i ganiatáu i blant fyfyrio ynghylch syniadau am foeseg a dinasyddiaeth a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddinesydd mewn gwlad rydd."

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag 'Ysgolion Arloesol' a chonsortia rhanbarthol ar ddyluniad y chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm newydd.  Disgwylir i fwy o wybodaeth am gynnwys y cwricwlwm fod ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

5.        Deisebau blaenorol

Yn 2012, trafododd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb a oedd yn galw ar y Cynulliad i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu'r arfer o addoli ar y cyd fel gofyniad cyfreithiol a deiseb yn galw i addoli ar y cyd gael ei ddiddymu.  Ar 15 Mai 2012, ysgrifennodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd at y Pwyllgor:

“I recognise that collective worship is an important part of school life.  In our multicultural country, it can be used as a way of supporting pupils’ spiritual development and providing all pupils, irrespective of their family background, aged and aptitudes, with opportunities to explore and express what is of value in life in an open reflective way.  With this in mind, I am not considering a change to the status of collective worship within schools in Wales.”

Oherwydd ymateb diamwys y Gweinidog ar y pryd, cafodd y ddwy ddeiseb eu cau.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.